Cefnogaeth Busnes-i-Fusnes

O grybwyll busnes, bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl taw pobl benderfynol, hunangynhaliol, uchelgeisiol sy’n hollol abl i weithio ar eu liwt eu hunain sy’n rhedeg busnesau. Ond, fel unigolion, mae angen cyngor ar fusnesau corfforaethol mawr a bach. Mae angen lle diogel arnynt i gronni unrhyw enillion. Efallai y bydd angen cyngor arnyn nhw ynghylch cychwyn neu ehangu’r busnes. Y bobl sy’n gweithio mewn cyngor a chefnogaeth busnes i fusnes sy’n darparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

a woman on the phoneMae nifer fawr o bobl yn dechrau gyrfaoedd cysylltiedig â busnes ym maes cyllid bob blwyddyn. Mae’r cyfle i drafod cyfrifon sy’n werth miliynau ar filiynau o bunnau, trafod deliau, rhoi achosion busnes at ei gilydd a throi breuddwydion pobl yn realiti yn dod â rhyw statws arbennig. Gallwch chi fod yn bysgodyn mawr mewn llyn arbenigol iawn, yn meithrin busnesau ac yn eu helpu i gymryd eu camau cyntaf ac i dyfu.

Bancio corfforaethol, yswiriant a dadansoddi risg, rheoli buddsoddi - mae’r holl arbenigwyr hyn a llawer o rai eraill yn rhoi benthyg o’u profiad helaeth, ac efallai talp mawr o arian, i fusnesau. Ble bynnag y byddwch chi’n arbenigo - tansgrifennu benthyciadau, strwythuro cyllid, rheoli eiddo, cael hyd i fflyd o geir, rheoli credyd a dyled - bydd gennych chi ddiddordeb personol ym mherfformiad eich cleientiaid yn yr hirdymor. Bydd hyn yn golygu llawer o gysylltiad â chleientiaid o’r dechrau, a chyfrifoldebau trwm i gyd-fynd â hynny.

Gallwch chi ddisgwyl tipyn o gysylltiad â phobl uwch na chi, trafod ag asiantaethau graddio cyfreithwyr a phobl broffesiynol eraill. Eich gwaith chi fydd cadw’r holl wybodaeth, cynhyrchion ac arian i lifo. A thrwy’r adeg byddwch yn mesur ac yn rheoli’r risg i’ch sefydliad chi’ch hun. Mae’n golygu mantoli manwl ond cyffrous.