Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
Ydych chi’n dda gyda’ch arian eich hunan? A hoffech chi gael y cyfle i helpu pobl eraill â’u harian nhw?
Mae bancio mân-werthu wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol, megis cardiau credyd a pheiriannau twll yn y wal, wedi bodoli am fwy na deng mlynedd ar hugain. A faint ohonom ni sy’n cael ein talu ag arian parod bellach? Erbyn hyn mae gan bron pawb o leiaf un cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, ac mae hyn wedi effeithio ar bob rhan o fyd mân-werthu. Mae cardiau bellach wedi disodli arian parod fel y ffordd fwyaf poblogaidd o dalu, ac mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn prynu eu tai eu hunain ac yn cymryd benthyciadau a chredyd.
Mae banciau’r stryd fawr a chymdeithasau adeiladu yn cynnig ystod enfawr o wasanaethau i gwsmeriaid personol a busnes, o’r pethau mwy sylfaenol megis rhedeg cyfrifon cyfredol a chynilo i roi cyngor manwl a deallus ar ystod lawn o gynhyrchion ariannol gan gynnwys cynilion a buddsoddiadau, morgeisi, yswiriant a benthyciadau busnes. Ac mae holl strwythur bancio wedi newid hefyd, er mwyn ateb gofynion cwsmeriaid. Erbyn hyn mae llawer yn gweithredu gwasanaethau ffôn a rhyngrwyd, weithiau yn ogystal â rhwydwaith o ganghennau, weithiau fel gwasanaeth cyflawn.

