Credyd a Chyllid
Mae pawb ohonom wedi clywed taw arian sy’n cadw’r byd i droi, ond a ydych chi erioed wedi aros i feddwl pwy sy’n helpu’r arian i gylchredeg? Mae'r ddau ddegawd diwethaf wedi gweld newid mawr mewn agweddau at fenthyg arian ac mae hyn wedi agor maes twf newydd ym myd gwasanaethau ariannol.
Mae pobl yn defnyddio credyd at bwrpasau gwahanol. Mae rhai’n ei ddefnyddio i brynu eitemau y byddai’n rhaid iddyn nhw aros blynyddoedd i’w cael fel arall. Mae eraill yn defnyddio credyd, megis benthyciadau wedi eu gwarantu, i gyfuno trefniadau credyd eraill yn ad-daliadau misol sy’n haws iddyn nhw eu fforddio.
Tua phen uchaf y raddfa gredyd mae morgeisiau i brynu cartrefi, ond mae mwy a mwy o bobl nawr yn benthyg ar gyfer hamdden a phleser: dodrefn newydd, car newydd neu bythefnos o haul yn Barbados.
Mae sector credyd a chyllid y diwydiant yn arbenigo ar fenthyg arian i bobl i wella’u hamgylchiadau. P’un ai prynu rhyw nwydd moeth bach neu gyfuno credyd arall sydd wedi mynd yn anodd ei reoli yw pwrpas y benthyciad, mae canolbwyntio ar gwsmeriaid ac agwedd sylwgar a chyfrifol yn hanfodol. Mae’r canolbwyntio ar anghenion ac amgylchiadau pob cwsmer unigol yn cael ei adlewyrchu yn yr holl ystod o swyddi sydd ar gael yn y sector hwn. Ar bob cam o’r broses fenthyg, mae’n hanfodol deilwra’r cynnig i ateb amgylchiadau penodol y cwsmer, a rhoi gwasanaeth cwbl bersonol.
Mae pob diwydiant yn gwerthfawrogi gwasanaeth cwsmeriaid a rhoi sylw i fanylion, ond ychydig iawn sy’n eu gwerthfawrogi’n fwy na hwn.

