Cyngor Ariannol a Rheoli Cyfoeth

Ydych chi’n dyheu am y bywyd bras, cael hedfan o gwmpas y byd ac ymddeol yn 50? Os yw’r freuddwyd hon yn swnio’n gyfarwydd, bydd angen cynllun arnoch chi. Y tebygolrwydd y byddwch chi’n ennill y loteri yw 1 mewn 13,983,816, felly mae pobl sy’n gweithio ym maes cynghori ariannol yn arbenigo ar greu Cynllun B personol iawn i gwsmeriaid.

Gyda chynifer o gynhyrchion buddsoddi, yswiriant bywyd a phensiynau ar gael, gall hyd yn oed y bobl fwyaf deallus gael eu drysu gan y dewis. Ar y croesffyrdd hyn y daw ymgynghorwyr ariannol i’r adwy i arwain cwsmeriaid allan o’r gors ariannol, gan greu strategaeth hirdymor i dyfu a gwarchod y crochan aur hwnnw. Byddan nhw’n dod i nabod cwsmeriaid, eu dyheadau a’u hanghenion ar gyfer eu hoes ac yn creu cynllun. Yn yr un modd ag y bydd meddygon yn ceisio gwneud bywydau’n iachach, bydd ymgynghorwyr ariannol yn ceisio gwneud dyfodol pobl yn gyfoethocach.

Bydd ymgynghorydd ariannol medrus yn mynd o dan groen cwsmer trwy broses gynhwysfawr o ddarganfod ffeithiau. Bydd yn holi cwestiynau, yn eu cael i roi trefn ar eu meddyliau ac yn cyflwyno dewisiadau priodol iddyn nhw. Mae hyn yn gofyn am sgiliau pobl o’r radd flaenaf, meddwn dadansoddol a gwybodaeth gyfoes am yr holl gynhyrchion sydd ar y farchnad. Gallech chi fod yn helpu rhywun sy’n prynu ei dy^ cyntaf, yn trefnu ‘rhwyd diogelwch’ i deulu, yn arwain rhywun sy’n dawnsio ar ddibyn dyled, neu’n buddsoddi pensiwn gwerth miloedd neu hyd yn oed filiynau o bunnau yn y farchnad stoc. Beth bynnag bo’r gorchwyl, gall eich cyngor chi gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd cwsmer.

Trwy hyfforddiant a phrofiad byddwch yn cael cymaint o wybodaeth am gynhyrchion a’r gyfraith ag sydd gan lawer o gyfrifwyr a chyfreithwyr. Mae digon o gyfleoedd i bobl ysbrydoledig i dorri eu cwys eu hunain a gwneud enw iddyn nhw ei hunain. Mae newidiadau yn y diwydiant a rheoliadau llym yn golygu sefyll ystod o arholiadau cydnabyddedig cyn i chi gael gweithio gyda chwsmeriaid.Mae’r cymwysterau hyn a phrofiad yn rhoi mwy o bŵer bargeinio a hyblygrwydd i symud o gwmpas neu hyd yn oed sefydlu’ch busnes eich hun.Ac mae’r diwydiant yn gweiddi am dalent ifanc, effeithlon.

Astudiaethau Achos

Laura Edmunds, Cynllunydd Ariannol, Chambers Morgan James Financial Management

Read 'Laura Edmunds' case study