Yswiriant a Risg
Ychydig iawn o bobl oedd heb eu cyffroi wrth weld lluniau o’r Tsunami a 9/11 ar y teledu. Dychmygwch pe baech chi wedi gallu gwneud gwahaniaeth ffisegol. Fe all pobl sy’n gweithio ym maes yswiriant, ac maen nhw’n gwneud hynny bod dydd - gan roi gobaith a chefnogaeth yn ystod amseroedd o wendid llethol.
Gwarchod yr hyn sy’n annwyl i bobl yw nod yswiriant, sicrhau cwsmeriaid gyda chefnogaeth ariannol ac emosiynol. Damwain car, bywyd teuluol, biliau mawr gan y milfeddyg, addurniadau gardd yn crwydro, cesys dillad gwyliau’n diflannu, cael eich diswyddo, afiechyd, hyd yn oed eiddo â gwerth sentimental, os oes modd ei brisio, gallwch chi fentro y bydd rhywun yn ei yswirio. Pam? Am na wyddom ni pryd daw trychineb i’n rhan.
Mae talu arian i mewn i gronfa yswiriant yn rhoi sicrwydd ariannol i gwsmeriaid. Ond mae’r ‘yswirwyr’ a’r cwmnïau brocera - y bobl ganol - yn gwneud llawer mwy na dim ond casglu a thalu allan. Bydd hawliad yn dechrau cadwyn o ddigwyddiadau fydd yn cynnwys llawer o arbenigwyr. Mae cwsmeriaid yn disgwyl gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a dibynadwy. Efallai byddwch chi’n rhan o gael cerbyd tynnu i achub teulu y mae eu car wedi torri ar y draffordd, trefnu taliadau yswiriant bywyd i berson trallodus sydd newydd golli ei briod o 30 mlynedd, siarad â rhywun am ddewisiadau buddsoddi ar gyfer ei bensiwn neu yn y rheng flaen yn rhydio trwy lif i gychwyn y broses o lanhau.
Ar hyd eich gyrfa, byddwch yn ennill sgiliau dymunol iawn a chymwysterau proffesiynol amlwg, a fydd yn rhoi cyfle i chi symud i bron unrhyw ddiwydiant neu sector.

